Mae Link2Learn yn ymroddedig i helpu ysgolion ac ESIS i rannu arfer dda mewn ffordd strwythuredig, hygyrch. Mae’n galluogi ymarferwyr i rannu eu profiad ag eraill, gan helpu rhwydweithio ag, a dysgu gan eraill.
Anogir ysgolion i gyflwyno’u deunyddiau arfer dda eu hunain i’r wefan. Yr unig ofyniad ar gyfer cyflwyno yw arfarniad gan yr ysgol y byddai hon yn wybodaeth a fyddai o werth i ysgolion eraill.
Mae’r fformat yn cynnwys Siwrnal Dysgu a Dogfennaeth Gefnogol. Mae’r Siwrnal Dysgu yn dros olwg ysgrifenedig o’r arfer dda sydd yn rhoi dealltwriaeth gyflym i’r darllenydd o nodau, gweithgarwch a chanlyniadau’r gwaith. Mae’r ddogfennaeth gefnogol yn darparu mwy o fanylion trwy astudiaethau achos cynhwysfawr, ffotograffau, cyflwyniadau ac ati.