Mae ESIS yn darparu gwasanaethau hyfforddi, ymgynghori ac arolygu ar draws holl feysydd a chyfnodau’r cwricwlwm er mwyn cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion ac unigolion ac i sicrhau bod yr holl blant a’r bobl ifanc yn derbyn yr addysg orau posib.
Mae ESIS yn cyflwyno hyd at 450 o gyrsiau hyfforddi HMS bob blwyddyn academaidd gan gynnwys sesiynau min nos, cyrsiau undydd a chynadleddau mwy. Mae’r holl gyrsiau wedi’u dylunio i helpu athrawon â’u datblygiad personol ac â gwella ysgolion. Maent hefyd yn darparu cyfle prin i athrawon rwydweithio a rhannu arfer orau o fewn cronfa wybodaeth gynyddol.
Mae ESIS yn rheoli prosiectau ymgynghori pwrpasol a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol ac ysgolion i gyflwyno canlyniadau penodol i’w hanghenion. Gall yr aseiniadau hyn bara o un wythnos i sawl mis neu sawl blwyddyn, yn dibynnu ar ofyniad yr awdurdod neu’r ysgol.
Mae tîm ymgynghorol ESIS o hyd yn ceisio cynhyrchu adnoddau o safon ar gyfer yr athrawon; maent yn creu cyhoeddiadau, adnoddau dosbarth a deunyddiau hyfforddi sydd yn helpu cadw athrawon i fyny â’r dulliau addysgu a’r newidiadau diweddaraf yn y cwricwlwm.
Mae ESIS yn helpu awdurdodau lleol gydag adolygu a datblygu ysgolion. Mae ein Hymgynghorwyr Cyswllt yn cynnal adolygiadau perfformiad blynyddol, adolygiadau adrannol, dadansoddiadau data ymchwil, cyngor pwnc arbenigol ac ymyriad a chefnogaeth i ysgolion.
Rydym ni hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol gyda chefnogi rheolwyr, gan ddarparu arweiniad ar benodiadau penaethiaid a dirprwyon, rheoli perfformiad personél, goruchwylio mentrau penodol a gweinyddu arian CYG.
O fewn tîm ymgynghorol ESIS mae arolygwyr cymeradwy, cofrestredig ac achrededig Estyn ar gyfer pob cyfnod. Mae hyn yn galluogi personél ESIS i weithredu fel arolygwyr cytundebol ar gyfer Estyn gan gynnal eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r systemau y caiff ysgolion ac awdurdodau lleol eu hasesu’n gyhoeddus yn eu herbyn.
Mae ESIS yn cynnal ac yn rheoli Tŷ Dysgu, canolfan gynadledda o’r radd flaenaf ac amgylchedd hyfforddi sydd yn darparu cyfleusterau ac amgylchoedd o safon. Mae’n safle gyda 14 ystafell sydd wedi’i leoli’n ganolog yn Nantgarw, nepell o Gaerdydd, gydag ystod lawn o offer cyfoes ac isadeiledd TGCh. Mae ar gael i’w hurio gan ysgolion, awdurdodau lleol a chleientiaid eraill o’r sector gyhoeddus a phreifat.