Gweledigaeth a Gwerthoedd

Nod ESIS yw darparu cyngor a chefnogaeth o ansawdd uchel i ysgolion a lleoliadau eraill mewn ymdrech gyfrannol i ddarparu’r addysg orau posib i blant a phobl ifanc.

Anelwn at ddiwallu anghenion a dymuniadau’r pedwar awdurdod lleol partner trwy ddarparu gwasanaethau ymgynghorol, addysgiadol, sydd yn ymroddedig i wella ysgolion, gan alluogi pobl ifanc i ddatblygu i’w llawn botensial.

Anelwn at hyrwyddo gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth, mewn ystod o leoliadau’r awdurdod lleol er mwyn atgyfnerthu dysgu a safonau gwasanaeth, er mwyn galluogi plant a phobl ifanc i fwynhau bywyd diogel ac iach.

Mae ESIS wedi’i wreiddio yn y gwerthoedd canlynol:
• Rhoi plant a phobl ifanc yn gyntaf
• Brwdfrydedd am fywyd
• Meithrin ymddiriedaeth a gweithio mewn partneriaeth
• Potensial, ymroddiad a chyflawniadau’r holl staff mewn ysgolion ac awdurdodau lleol
• Cyfleoedd cyfartal a ‘hawliau gweithredu’ Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc
• Bod yn effeithlon, effeithiol ac economaidd
 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: