Ers sefydliad ESIS ym 1996 rydym ni wedi adeiladu tîm o bobl broffesiynol ragorol. Dibynnwn ar yr aelodau staff ymroddedig, proffesiynol a thalentog hyn i wneud ESIS yn llwyddiant ac i gyflwyno gwasanaethau o’r radd flaenaf i’r awdurdodau lleol a’r ysgolion y gweithiwn gyda nhw.
Mae ein tîm ymgynghorol yn cynnwys dros hanner cant o bobl broffesiynol addysg hynod brofiadol, sydd yn galluogi ymagwedd wybodus at wella ysgolion. At ei gilydd maent yn darparu cyngor a chefnogaeth ar draws holl feysydd a chyfnodau’r cwricwlwm. Maent yn cymryd rhan mewn dialog rheolaidd, parhaus er mwyn herio perfformiad ac i nodi gweithgarwch gwella ysgolion, gan gynnwys gosod targedau a safonau uwch ond realistig.
Mae ein tîm cefnogi yn ymroddedig i wneud profiad pawb o ESIS yn un y gellir ei fwynhau, gan gefnogi unigolion ac ysgolion â’u datblygiad. Maent yn sicrhau rhediad esmwyth y ganolfan gynadledda a’r holl gyrsiau, prosiectau arbennig a chyllid trwy eu perthnasoedd cryf â’n partneriaid a sefydliadau allanol.
Cydnabu ESIS fod ein llwyddiant yn ymdrech tîm, a bod buddsoddi yn ein gweithwyr trwy ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad yn hanfodol ac felly rydym ni o hyd yn ceisio cynnal ein Gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl. Mae derbyn y wobr hon yn cydnabod bod gennym ethos a diwylliant tîm lle gwerthfawrogir ac ystyrir cyfraniad pawb yn bwysig. Er i ni rannu gwerthoedd cyffredin ESIS rydym ni’n falch o’r profiad, dymuniadau a sgiliau a ddaw gyda phob person i’w rôl.
Anelwn at sicrhau bod ein holl amgylcheddau gwaith yn gynhwysol, yn ddiogel, yn hyrwyddo lles, yn trin pobl â pharch, yn cysylltu gweithwyr ac yn cynnig ysgogiadau a chyfleoedd deniadol.